
2018 Rhif 196 (Cy. 45)
Enillion Troseddau, Cymru
Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018
Gwnaed 20 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Enillion Troseddau 2002.
Cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig
3 
Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC.
4 
Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2018
ATODLEN
Cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig
Erthyglau 3 a 4
RHAN 1
1 
Adran 42(2)(c) (cais am orchymyn atal o dan Ran 2 – yn ddarostyngedig i awdurdodiad o dan adran 68(3)(c)).
2 
Adrannau 47A(1)(c) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”) a 47M(3)(c) (cadwad pellach gan lys ynadon).
3 
Pennod 3 o Ran 5 (ar wahân i’r ail gyfeiriad yn adran 290(4)(c)).
4 
Adran 352(5)(c) (y person priodol at ddibenion gwarantau chwilio ac ymafael o dan Bennod 2 o Ran 8).
5 
Adran 353(10)(c) (y person priodol ar gyfer sicrhau mynediad ar unwaith i fangre pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael).
6 
Adran 378(1)(b) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu o dan Ran 8).
7 
Adran 378(3A)(ab) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad o dan Ran 8).
8 
Adran 378(4)(a) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian o dan Ran 8).
RHAN 2
9 
Adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol).
10 
Adran 68(3)(c) (awdurdodiad ar gyfer ceisiadau ac apelau o dan Ran 2).
11 
Adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw gan uwch-swyddog i gynnal chwiliad arian parod o dan Bennod 3 o Ran 5).
12 
Adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu).
13 
Adran 378(3AA)(b) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad).
14 
Adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian).