
2018 Rhif 18 (Cy. 8)
Trafnidiaeth, Cymru
Rheoliadau Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (Rasio Moduron) (Cymru) 2018
Gwnaed 9 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Ionawr 2018
Yn dod i rym 2 Chwefror 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12B(6) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (Rasio Moduron) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 02 Chwefror 2018.
Cyrff llywodraethu chwaraeon moduron sydd ag awdurdod i ddyroddi trwyddedau rasio moduron
2 
Y cyrff llywodraethu chwaraeon moduron a bennir at ddiben adran 12B(6) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, o ran Cymru, yw—
(a) The Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited; a
(b) The Auto-Cycle Union Limited.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Ionawr 2018