
2018 Rhif 1365 (Cy. 262)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Rhagfyr 2018
Gwnaed 12 Rhagfyr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2018
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig
2 
At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019, pennir mai 281.7 yw B.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2018