
2018 Rhif 1305 (Cy. 259)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018
Gwnaed 5 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2018

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Terfyn unedau carbon
2 
Y terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2016-2020 yw 10% o’r gyllideb garbon.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2018