
2018 Rhif 1304 (Cy. 258)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018
Gwnaed 5 Rhagfyr 20185 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2018

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
(a) wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1) o’r Ddeddf;
(b) wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf; ac
(c) wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Targedau Allyriadau Interim
2 

(1) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2020 yw 27% islaw’r waelodlin.
(2) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2030 yw 45% islaw’r waelodlin.
(3) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2040 yw 67% islaw’r waelodlin.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2018