
2018 Rhif 1303 (Cy. 257)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018
Gwnaed 5 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2018

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 32(1)(b) o’r Ddeddf, yn fodlon bod y cyllidebau carbon sydd wedi eu nodi yma yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050.
Wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 32(3), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 31(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Cyllidebau Carbon
2 

(1) Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2016 i 2020 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 23% yn is na’r waelodlin.
(2) Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021 i 2025 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 33% yn is na’r waelodlin.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
5 Rhagfyr 2018