
2018 Rhif 1302 (Cy. 256)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018
Gwnaed 5 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2018

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 35 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; ac
 ystyr “rhestr nwyon tŷ gwydr y DU” (“UK greenhouse gas inventory”) yw adroddiad blynyddol y DU i Gynhadledd y Partïon a gyflwynir o dan erthyglau 4 a 12 o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992.
Allyriadau o hedfan rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru
3 
Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 1 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —
(a) y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw, a
(b) pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.
Allyriadau o forgludiant rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru
4 
Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 2 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —
(a) y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw; a
(b) pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2018
ATODLEN 1
FFORMIWLA AR GYFER CYFRIFO ALLYRIADAU BLYNYDDOL NWYON TŶ GWYDR O HEDFAN RHYNGWLADOL
Rheoliad 3

A=B×(CD)yn y fformiwla hon—
 “A” yw allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
 “B” yw’r swm o nwy a allyrrir gan y Deyrnas Unedig o hedfan rhyngwladol fel yr adroddir yn Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU;
 “C” yw’r tanwydd a ddefnyddir i hedfan awyrennau i gyrchfannau rhyngwladol o feysydd awyr yng Nghymru;
 “D” yw’r tanwydd a ddefnyddir i hedfan awyrennau i gyrchfannau rhyngwladol o feysydd awyr yn y Deyrnas Unedig.

ATODLEN 2
FFORMIWLA AR GYFER CYFRIFO ALLYRIADAU BLYNYDDOL NWYON TŶ GWYDR O FORGLUDIANT RHYNGWLADOL
Rheoliad 4

F=G×(HI)yn y fformiwla hon—
 “F” yw allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
 “G” yw’r swm o nwy a allyrrir gan y Deyrnas Unedig o forgludiant rhyngwladol fel yr adroddir yn Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU;
 “H” yw nifer y mordeithiau ar gyfer pob porthladd yng Nghymru; ac
 “I” yw nifer y mordeithiau ar gyfer pob porthladd yn y Deyrnas Unedig.
