
2018 Rhif 128 (Cy. 32)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
Gwnaed Ionawr 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi.

Yn unol ag adran 25(1) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy y mae’r dyddiad y mae’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Bandiau treth a chyfraddau treth canrannol
3 
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol at ddibenion adran 24(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a pharagraff 28(1) o Atodlen 6 iddi—
(a) mae Tabl 1 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl;
(b) mae Tabl 2 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;
(c) mae Tabl 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau eiddo amhreswyl; a
(d) mae Tabl 4 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band o ran trafodiadau pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018
YR ATODLEN
Rheoliad 3

Tabl 1: Trafodiadau eiddo preswyl
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £180,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 3.5%
Yr ail fand treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 5%
Y trydydd band treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 7.5%
Y pedwerydd band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 10%
Y pumed band treth Mwy na £1,500,000 12%

Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf Nid mwy na £180,000 3%
Yr ail fand treth Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 6.5%
Y trydydd band treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 8%
Y pedwerydd band treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 10.5%
Y pumed band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 13%
Y chweched band treth Mwy na £1,500,000 15%

Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £150,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £150,000 ond nid mwy na £250,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 5%
Y trydydd band treth Mwy na £1,000,000 6%

Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LA Nid mwy na £150,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £150,000 ond nid mwy na £2,000,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £2,000,000 2%