
2018 Rhif 1267 (Cy. 253)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Addasiad Ynysoedd Scilly) 2018
Gwnaed 29 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym 4 Chwefror 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 197(7) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Addasiad Ynysoedd Scilly) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Chwefror 2019.
Cymhwyso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gydag addasiad
2 

(1) Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael effaith gyda’r addasiad ym mharagraff (2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at “awdurdod lleol yn Lloegr” i’w drin fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at Gyngor Ynysoedd Scilly.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29th November 2018