
2018 Rhif 126 (Cy. 31)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018
Gwnaed 31 Ionawr 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Yn unol ag adran 78(3) o’r Ddeddf honno, roedd Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall y Rheoliadau hyn gael yr effaith a grybwyllir yn adran 78(4) o’r Ddeddf honno, a gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “CThEM” (“HMRC”) yw Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (o fewn ystyr adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005);
 ystyr “DC 2003” (“the FA 2003”) yw Deddf Cyllid 2003;
 ystyr “DC 2009” (“the FA 2009”) yw Deddf Cyllid 2009;
 ystyr “digwyddiad adran 16(6)” (“a section 16(6) event”) yw un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraffau (a) i (c) o adran 16(6) o Ddeddf Cymru 2014;
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad hwnnw a bennir gan y Trysorlys drwy orchymyn o dan adran 16(4) o Ddeddf Cymru 2014; ac
 ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Contractau yr ymrwymir iddynt ar 17 Rhagfyr 2014 neu cyn hynny
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymir iddynt ar 17 Rhagfyr 2014 neu cyn hynny ar gyfer trafodiad tir y mae’r trafodiad i’w gwblhau drwy drosglwyddiad oddi tano ac y ceir dyddiad cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad sydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, a’r trafodiad wedi ei eithrio gan ddigwyddiad adran 16(6), mae adran 10 o’r Ddeddf TTT yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol fel a ddisgrifir yn adran 44(4) o DC 2003, a bod treth mewn cysylltiad â’r cyflawni’n sylweddol wedi ei thalu i CThEM o dan y Ddeddf honno.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys, mae adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys ac eithrio nad yw’r dreth ond i’w chodi ar y trafodiad diwethaf i’r graddau (os o gwbl) y mae swm y dreth sydd i’w godi arno yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract o dan DC 2003 ac a dalwyd i CThEM.
Contractau yr ymrwymir iddynt ar ôl 17 Rhagfyr 2014 ond cyn y dyddiad cychwyn
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymir iddynt ar ôl 17 Rhagfyr 2014 ond cyn y dyddiad cychwyn ar gyfer trafodiad tir y mae’r trafodiad i’w gwblhau drwy drosglwyddiad oddi tano ac y ceir dyddiad cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad sydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys ac y cyflawnir y contract yn sylweddol fel a ddisgrifir yn adran 44(4) o DC 2003 cyn y dyddiad cychwyn, mae adran 10 o’r Ddeddf TTT yn gymwys yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod treth mewn cysylltiad â’r cyflawni’n sylweddol wedi ei thalu i CThEM o dan DC 2003, mae paragraff (4) yn gymwys.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys ac eithrio nad yw’r dreth ond i’w chodi ar y trafodiad diwethaf i’r graddau (os o gwbl) y mae swm y dreth sydd i’w godi arno yn fwy na swm y dreth a oedd i’w godi ar y contract o dan DC 2003 ac a dalwyd i CThEM.
Rhyddhad cyllid eiddo arall
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymrwymir i’r trefniadau a ddisgrifir yn adran 71A o DC 2003 cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys ac y cwblheir y trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad a ddisgrifir yn adran 71A o DC 2003 cyn y dyddiad cychwyn, mae unrhyw drafodiad pellach a ddisgrifir gan is-adran (4) o’r adran honno wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 2 o Atodlen 10 i’r Ddeddf TTT, ar yr amod—
(a) bod y dyddiad y mae’r trafodiad pellach hwnnw yn cael effaith ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny; a
(b) bod yr amodau a grybwyllir yn adran 71A(4) o DC 2003 wedi eu bodloni.
Bondiau buddsoddi cyllid arall
6 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymrwymir i’r trefniadau a ddisgrifir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 61 i DC 2009 cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys ac y cwblheir y trafodiad cyntaf a ddisgrifir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 61 i DC 2009 cyn y dyddiad cychwyn, mae’r ail drafodiad a ddisgrifir ym mharagraff 5(11)(a) o Atodlen 61 i DC 2009 wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 15 o Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT, ar yr amod—
(a) bod y dyddiad y mae’r ail drafodiad hwnnw yn cael effaith ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny; a
(b) bod yr amodau a grybwyllir ym mharagraff 8(1) o Atodlen 61 i DC 2009 wedi eu bodloni.
Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth yn unol â threfniadau cynharach
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo paragraff 17(1) o Atodlen 15 i DC 2003 yn gymwys a phan fo—
(a) y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 17(1)(a) o’r Atodlen honno yn cael effaith cyn y dyddiad cychwyn; a
(b) trosglwyddiad y bartneriaeth y cyfeirir ato ym mharagraff 17(1)(c) o’r Atodlen honno yn digwydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r trosglwyddiad tir yn cael ei drin at ddibenion paragraff 18 o Atodlen 7 i’r Ddeddf TTT fel pe bai’n drosglwyddiad tir a grybwyllir yn y paragraff hwnnw.
Tynnu arian etc. o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwy
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo paragraff 17A(1) o Atodlen 15 i DC 2003 yn gymwys a phan fo—
(a) y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 17A(1)(a) o’r Atodlen honno yn cael effaith cyn y dyddiad cychwyn; a
(b) y digwyddiad cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff 17A(1)(c) o’r Atodlen honno yn digwydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae’r trosglwyddiad tir yn cael ei drin at ddibenion paragraff 19 o Atodlen 7 i’r Ddeddf TTT fel pe bai’n drosglwyddiad tir a grybwyllir ym mharagraff 19(1) o’r Atodlen honno; a
(b) mae digwyddiad cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff 17A(2) o Atodlen 15 i DC 2003 yn cael ei drin fel pe bai’n ddigwyddiad cymwys at ddibenion paragraff 19(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf TTT.
Lesoedd sy’n gorgyffwrdd
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r hen les y cyfeirir ati ym mharagraff 7(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT wedi ei rhoi cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae paragraff 7(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT yn gymwys i’r hen les; a
(b) mae swm y rhent trethadwy o dan yr hen les at ddibenion paragraff 7(2) a (3)(b) o’r Atodlen honno i olygu’r swm a ystyriwyd wrth bennu’r dreth sydd i’w chodi o dan ddarpariaethau Atodlen 5 i DC 2003 mewn perthynas â chaffael yr hen les.
Achosion pan fo aseinio les yn cael ei drin fel rhoi les
10 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo paragraff 11(1) o Atodlen 17A i DC 2003 yn gymwys a phan fo—
(a) y dyddiad y mae’r achos o roi les y cyfeirir ato ym mharagraff 11(1) o’r Atodlen honno yn cael effaith cyn y dyddiad cychwyn; a
(b) yr aseiniad cyntaf o’r les y cyfeirir ato ym mharagraff 11(2) o’r Atodlen honno yn digwydd ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae’r achos o roi les y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) yn cael ei drin fel rhoi les at ddibenion paragraff 22(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT;
(b) mae’r aseiniad cyntaf o’r les y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn cael ei drin fel yr aseiniad cyntaf o les at ddibenion paragraff 22(2) o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT; ac
(c) mae’r darpariaethau ym mharagraff 11(3) a (5) o Atodlen 17A i DC 2003 yn cael eu trin at ddibenion paragraff 22 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT fel pe baent, pan fo hynny’n gymwys, y darpariaethau cyfatebol ym mharagraff 22(4) a (6) o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.
Amrywio les yn cael ei drin fel rhoi les newydd
11 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i les a roddir cyn y dyddiad cychwyn (y mae darpariaethau Atodlen 17A i DC 2003 yn gymwys iddi) pan gaiff y les ei hamrywio ar y dyddiad cychwyn neu ar ôl hynny er mwyn cynyddu swm y rhent a fyddai, pe bai cyn y dyddiad hwnnw, wedi bod yn amrywiad y byddai paragraff 13(1) o’r Atodlen honno yn gymwys iddo.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, at ddibenion paragraff 25 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT—
(a) mae amrywio’r les yn cael ei drin fel rhoi les; a
(b) y gydnabyddiaeth drethadwy (ac eithrio mewn cysylltiad ag unrhyw gydnabyddiaeth ac eithrio rhent) yw’r rhent ychwanegol.
Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch – eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa
12 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i drafodiad y mae ei ddyddiad cael effaith ar 26 Tachwedd 2018 neu cyn hynny.
(2) At ddiben pennu a yw trafodiad o’r fath yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, mae Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae paragraff 8(2)(b) yn cael effaith fel pe bai “yr un dyddiad â’r dyddiad, neu cyn y dyddiad,” wedi ei roi yn lle “ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad”;
(b) mae paragraff 8(2)(d) yn cael effaith fel pe bai “cyn y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith” wedi ei roi yn lle “yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b)”;
(c) mae paragraff 17(2)(b) yn cael effaith fel pe bai “yr un dyddiad â’r dyddiad, neu cyn y dyddiad,” wedi ei roi yn lle “ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad”; a
(d) mae paragraff 17(2)(d) yn cael effaith fel pe bai “cyn y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith” wedi ei roi yn lle “yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b)”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018