
2018 Rhif 1209 (Cy. 246)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Ionawr 2019
Gwnaed 21 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Tachwedd 2018
Coming into force 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017—
(a) y gyfradd safonol yw £91.35 y dunnell;
(b) y gyfradd is yw £2.90 y dunnell; ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £137.00 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2019”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2018