
2018 Rhif 1208 (Cy. 245)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 20 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion y Ddeddf honno mewn perthynas â’r mesurau sy’n ymwneud ag asesu, rheoli a rheolaeth sŵn amgylcheddol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.”;
(c) hepgorer paragraffau (4) a (5).
(4) Hepgorer Atodlen 2.
(5) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;
(b) hepgorer paragraff 2(a).
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2018