
2018 Rhif 1188 (Cy. 242)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 15 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 7 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad agored a thryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o
ran materion diogelwch bwyd, ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a
Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Rhagfyr 2018.
Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
2 
Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
Diwygio rheoliad 2
3 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor”;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Rhan I” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”; ac
(c) yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 565/2013”.
Diwygio rheoliad 4
4 
Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer paragraffau (vii) ac (viii); a
(ii) yn is-baragraff (c), yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle’r geiriau o “Reoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “pwynt IV(2)” hyd at “1234/2007” rhodder “pwynt 4(2) o Ran 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2018