
2018 No. 1180 (Cy. 239)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018
Gwnaed 13 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 10 Rhagfyr 2018

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraffau 9(1) a 10(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â Sir Gaerfyrddin.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraff 10(4) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018 a daw i rym ar 10 Rhagfyr 2018.
Dynodi ardal gorfodi sifil
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau; a
(b) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig sy’n symud.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018