
2018 Rhif 1179 (Cy. 238)
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
Gwnaed 13 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 10 Rhagfyr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.
(2) Deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Gorchymyn 2018” yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018.
RHAN 2 Ffioedd sy’n ymwneud ag iechyd planhigion
Ffioedd arolygu mewnforio
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwyth o drydedd wlad sydd ar ffurf planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018.
(2) Mae’r ffioedd a ganlyn yn daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad—
(a) mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth, ffi o £9.71;
(b) mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddi, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
(c) mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn neu gynnyrch planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 ac sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;
(d) pan fo arolygydd yn amau bod y llwyth wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol ai peidio, ffi o £157.08 am bob sampl a brofir.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “pla planhigion a reolir” yr ystyr a roddir yn erthygl 32(7)(a) o Orchymyn 2018;
(b) ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(c) mae i “trydedd wlad” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
Ffioedd awdurdodiad pasbort planhigion
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodiad pasbort planhigion.
(2) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad ag arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gynhelir—
(a) mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad pasbort planhigion;
(b) at ddiben monitro a gydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(4) Mae ffi ychwanegol o £18.78 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) am awdurdodiad pasbort planhigion.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am awdurdodiad pasbort planhigion neu gan ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion (yn ôl y digwydd).
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018;
(b) ystyr “mangre berthnasol”, mewn perthynas â chais am awdurdodiad pasbort planhigion neu ag awdurdodiad pasbort planhigion, yw’r fangre sy’n destun y cais neu’r awdurdodiad.
Ffioedd trwydded iechyd planhigion
5 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4 yn daladwy mewn cysylltiad ag—
(a) cais am drwydded;
(b) unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw a gynhelir mewn cysylltiad â thrwydded.
(2) Swm unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded neu unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4 yw’r swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, y’i canfyddir yn unol â’r cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw (os oes rhai) yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â monitro telerau ac amodau’r drwydded yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre sy’n ddarostyngedig i’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir.
(4) Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n cyflwyno cais am drwydded neu ddeiliad y drwydded (yn ôl y digwydd).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwydded” yw trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018.
Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffi
6 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi dros dro Aelod Wladwriaethau i gymryd camau brys i atal lledaeniad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft.
Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi
7 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckerann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus.
RHAN 3 Ffioedd sy’n ymwneud ag ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau
Tatws hadyd: ffioedd
8 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.
(2) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.
(4) Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(6) Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.
Planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau: ffioedd
9 

(1) Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.
(2) Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.
(3) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.
RHAN 4 Talu’r ffioedd
Talu’r ffioedd
10 
Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru ar orchymyn.
Atal dros dro gofrestriad
11 

(1) Pan fo unrhyw swm sy’n daladwy drwy, neu mewn perthynas ag, unrhyw ffi neu unrhyw ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn dal heb ei dalu, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) adennill y swm fel dyled sifil, neu
(b) ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr hyd nes bod y swm hwnnw wedi ei dalu.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “cofrestredig” (“registered”), “cofrestru” (“registration”) a “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
RHAN 5 Dirymiadau
Dirymiadau
12 
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018
ATODLEN 1
Ffioedd arolygu mewnforio
Rheoliad 3(1)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Colofn 2Ffi (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau 139.84
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had) 152.41
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws) 233.18
Hadau, meithriniad meinwe 117.81
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn 152.41
Blodau wedi eu torri 33.42
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) 64.67
Coed Nadolig wedi eu torri 122.89
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog 75.30
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) 57.45
Cloron tatws 156.63
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl 122.85
Grawn 133.23
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd 11.16
ATODLEN 2
Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol
Rheoliad 3(2)(c)


Colofn 1Genws Colofn 2Gwlad tarddiad Colofn 3Ffi (£)
Blodau wedi eu torri

Aster
 
Zimbabwe
 
25.07

Dianthus Colombia 1.00
Ecuador 5.01
Kenya 1.67
Twrci 5.01
Rosa Colombia 1.00
Ecuador 1.00
Ethiopia 1.67
Kenya 1.67
Tanzania 5.01
Zambia 3.34
Canghennau gyda deiliant
Phoenix Costa Rica 22.63
Ffrwythau
Citrus Moroco 2.87
 Periw 5.74
 Twrci 1.72
 UDA 8.62
Citrus limon a citrus aurantifolia Israel 14.36
Malus Yr Ariannin 20.11
 Brasil 43.09
 Chile 2.87
 Seland Newydd 5.74
 De Affrica 2.87
Passiflora Colombia 4.02
 Kenya 14.36
 De Affrica 20.11
 Fiet-nam 20.11
 Zimbabwe 28.73
Prunus Yr Ariannin 43.09
 Chile 5.74
 Moroco 14.36
 Twrci 20.11
 UDA 14.36
Prunus, ac eithrio prunus persica De Affrica 2.87
Pyrus Yr Ariannin 8.62
 Chile 8.62
 Tsieina 28.73
 De Affrica 5.74
Vaccinium Yr Ariannin 14.36
Llysiau
Capsicum Moroco 2.87
Lycopersicon Yr Ynysoedd Dedwydd 2.87
 Moroco 2.87
Momordica Surinam 20.11
Solanum melongena Kenya 5.74
 Twrci 14.36
ATODLEN 3
Ffioedd awdurdodiad pasbort planhigion
Rheoliad 4(2)

Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Colofn 1Dyddiad yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig Colofn 2Ffi (£) Colofn 3Isafswm ffi (£)
Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd o fewn cyfnod 1 66.91 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 133.82
Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 73.85 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 147.70

ATODLEN 4
Ffioedd trwydded iechyd planhigion
Rheoliad 5(1)

Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Colofn 1Y math o gais neu arolygiad Colofn 2Dyddiad y cais Colofn 3Ffi (£)
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—— trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall— trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 948.51
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 995.36
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 948.51, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu r Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 705.20
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 745.41
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 705.20, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 351.81
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 380.25
Cais am unrhyw drwydded arall — 42.50
Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol — 42.50
Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded — 17.50 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £35

ATODLEN 5
Tatws hadyd: ffioedd
Rheoliad 8(1)


Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) Colofn 3Isafswm ffi (£)
Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws
Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 21.53 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi —
Arolygu cnydau sy’n tyfu
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb 33.62 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 67.24
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb 33.62 am bob ¼ hectar (neu ran ohono) a arolygir 67.24
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb 58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir 116.94
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb 58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir 116.94
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb 57.17 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir 114.34
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd A neu B yr Undeb 51.97 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir 103.94
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Arolygu 31.84 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 63.69
Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau
Labelau a seliau argraffedig 0.48 am bob label/sêl —
Labelau a seliau gwag 0.12 am bob label/sêl —
ATODLEN 6
Dirymiadau
Rheoliad 12


— Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014.
— Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015.
