
2018 Rhif 1173 (Cy. 237)
Cyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018
Gwnaed 12 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 21 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ionawr 2019.
Dirymiadau
2 
Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016;
(b) Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017.
Dynodiadau
3 
Mae corff a restrir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2018
YR ATODLEN
Cyrff Dynodedig
Erthygl 3


 Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
 Awdurdod Cyllid Cymru
 Byrddau Iechyd Lleol (fel y’u sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006)
 Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
 DCFW Limited
 Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales
 Innovation Point Limited
 Life Sciences Hub Wales Limited
 Sector Development Wales Partnership Limited
 Trafnidiaeth Cymru
 WGC Holdco Limited
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
