
2018 Rhif 111 (Cy. 26)
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 29 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2018
Yn dod i rym 2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 81(6)(d), 84(f), 87, 107(8) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
2 

(1) Mae rheoliad 12 (penderfyniad lleoli) o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi ei ddiwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (6)(b) hepgorer “ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad”.
(3) Ym mharagraff (8), yn lle’r diffiniad o “hysbysu” rhodder—“
 “ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b)
yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu—
(a) ddim hwyrach na 24 awr ar ôl gwneud y lleoliad—
(i) enw a dyddiad geni C,
(ii) cadarnhad ynghylch a yw C yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar sail wirfoddol neu o dan orchymyn gofal,
(iii) manylion am unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn sydd wedi eu gwneud mewn perthynas ag C ac sy’n parhau mewn grym—
(aa) unrhyw orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989,
(bb) gorchymyn adsefydlu ieuenctid, gofyniad preswylio awdurdod lleol neu orchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu,
(cc) gorchymyn goruchwylio gorfodol neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, a
(iv) manylion am unrhyw ffactorau amddiffyn plant neu ffactorau risg sylweddol sy’n ymwneud ag C, gan gynnwys unrhyw berygl o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, materion iechyd corfforol neu iechyd meddwl, hanes o ddianc a/neu ymwneud ag asiantaethau cyfiawnder ieuenctid, ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffactorau hynny; a
(b) ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad—
(i) manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a
(ii) copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi ohono eisoes;”.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2018