
2018 Rhif 1087 (Cy. 227)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018
Gwnaed 15 Hydref 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Hydref 2018
Yn dod i rym 1 Ionawr 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 75 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a darpariaeth atodol
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 1 Ionawr 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i adeiladau eglwysig yng Nghymru sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig.
(3) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer gwaith a gychwynnwyd, neu ar gyfer gwaith yr ymrwymwyd i gontract mewn cysylltiad ag ef, cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
 mae i “yr Eglwys Fethodistaidd” yr ystyr a roddir i “the Methodist Church” fel y’i diffinnir yn adran 2(1) o Ddeddf yr Eglwys Fethodistaidd 1976; ac
 ystyr “esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig” (“listed buildings ecclesiastical exemption”) yw’r esemptiad rhag darpariaethau adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 1990 y darperir ar ei gyfer yn adran 60(1) i (3) o Ddeddf 1990.
Eithrio esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig
3 
Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei eithrio mewn cysylltiad â phob adeilad eglwysig ar wahân i’r achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4.
Adeiladau sy’n cadw esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig
4 

(1) Yn yr erthygl hon, ystyr “adeilad eglwys” (“church building”) yw adeilad a ddefnyddir yn bennaf fel man addoli, ac at ddibenion y diffiniad hwn mae—
(a) unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a
(b) unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir,
yn cael ei drin fel pe bai’n rhan o adeilad yr eglwys.
(2) Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei gadw ar gyfer yr adeiladau a ganlyn i’r graddau a nodir ym mharagraff (3)—
(a) adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi eu breinio yng Nghorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw gorff cynrychioliadol a ymgorfforwyd o dan adran 13(2) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914;
(b) adeiladau eglwys o fewn awdurdodaeth hawleb Eglwys Loegr;
(c) adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth gan ymddiriedolwyr esgobaethol un o esgobaethau’r Eglwys Gatholig;
(d) adeiladau eglwys sy’n eiddo i’r Eglwys Fethodistaidd, neu sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar ei chyfer, neu at ei dibenion, neu unrhyw sefydliad cyfundebol neu leol i’r Eglwys Fethodistaidd;
(e) adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar gyfer Eglwys sy’n aelod o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr neu Undeb Bedyddwyr Cymru gan naill ai—
(i) the Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill); neu
(ii) the Welsh Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill).
(3) Mae esemptiad eglwysig adeilad rhestredig yn gyfyngedig mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys sy’n dod o fewn is-baragraffau (a) ac (c) i (e) o baragraff (2) i waith a gynhelir—
(a) gan neu ar ran eglwys neu gorff, neu ran gyfansoddol o eglwys neu gorff, y cyfeirir ati neu ato yn yr is-baragraffau hynny; neu
(b) gan neu ar ran corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr y sefydliad hwnnw pan fo’r adeiladau eglwys o dan sylw ar unrhyw fangre sy’n ffurfio rhan o brifysgol, coleg, ysgol, ysbyty, sefydliad cyhoeddus neu sefydliad elusennol.
Eithrio esemptiad cydsyniad ardal gadwraeth
5 
Mae’r esemptiad rhag darpariaethau adran 74 o Ddeddf 1990 y darperir ar ei gyfer yn adran 75(1)(b) o Ddeddf 1990 wedi ei eithrio yn achos pob adeilad eglwysig gan gynnwys—
(a) unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a
(b) unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir.
Darpariaethau trosiannol: gwrthrychau a strwythurau o fewn cwrtil
6 
Nid yw erthygl 4 yn gymwys pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn perthynas ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir, yn cael ei wneud cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994
7 
Mae Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994 wedi ei ddirymu.
Dafydd Elis Thomas
Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
15 Hydref 2018