
2018 Rhif 1077 (Cy. 226)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
Gwnaed 10 Hydref 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Hydref 2018
Yn dod i rym 7 Ionawr 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a pharagraffau 4(a), 11(5), 17(5), 18(3), 23(7), 24(5) a 28 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i’r Ddeddf;
 ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—
(a) cais am gymeradwyaeth a wneir yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3, neu
(b) y rhan honno o gais cyfun a wneir yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 3 y gwneir cais am gymeradwyaeth mewn perthynas â hi—ac mae cyfeiriad at “cais dilys” (“valid application”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am gymeradwyaeth;
 ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 am system ddraenio i waith adeiladu;
 ystyr “cynnig a gadarnhawyd” (“confirmed proposal”) yw cynnig i wneud gwaith ailadeiladu a gadarnhawyd o dan reoliad 15;
 mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae i “datblygwr” yr ystyr a roddir i “developer” ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971, nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
 ystyr “gwaith ailadeiladu” (“reconstruction work”) yw gwaith a wneir—
(a) i ailadeiladu system ddraenio gynaliadwy i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau, neu
(b) i adeiladu system ddraenio gynaliadwy newydd yn unol â’r safonau cenedlaethol i weithredu yn lle’r system ddraenio gynaliadwy yr effeithiwyd arni gan y gwaith statudol;
 ystyr “gwaith adferol” (“remedial work”) yw gwaith a wneir ar system ddraenio gynaliadwy—
(a) i unioni difrod a achoswyd gan waith statudol, a
(b) i sicrhau bod y system ddraenio gynaliadwy yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol;
 mae i “gwaith statudol” (“statutory works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 14;
 ystyr “safonau cenedlaethol” (“national standards”) yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir o dan baragraff 5 o Atodlen 3;
 ystyr “system ddraenio gynaliadwy” (“sustainable drainage system”) yw’r rhannau hynny o system ddraenio nad ydynt wedi eu breinio mewn ymgymerwr carthffosiaeth yn unol â chytundeb o dan adran 104 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;
 mae i “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio.
RHAN 2 Penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth
Gwrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth
3 

(1) Caiff corff cymeradwyo wrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth nad yw’n cael ei wneud yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3.
(2) Pan fo corff cymeradwyo yn gwrthod penderfynu ar gais yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a) rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei wrthod a rhoi’r rhesymau dros hynny, a
(b) dychwelyd unrhyw ffi am gais sy’n mynd gyda’r cais.
Dyletswydd i ymgynghori cyn penderfynu ar gais am gymeradwyaeth
4 

(1) Rhaid i gorff cymeradwyo, pan fydd yn gwneud cais am ymateb gan berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraff 11(3) o Atodlen 3 (“ymgynghorai”), bennu dyddiad ar gyfer ymateb sydd o fewn 3 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo anfon y cais.
(2) Cyn diwedd y cyfnod a bennir o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ymgynghorai gytuno ar ddyddiad gwahanol ar gyfer ymateb.
(3) Caiff y corff cymeradwyo ddiystyru ymateb a geir gan ymgynghorai ar ôl y terfyn amser perthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfyn amser perthnasol” yw—
(a) cyfnod a bennir o dan baragraff (1), neu
(b) unrhyw gyfnod arall y cytunir arno o dan baragraff (2).
Terfynau amser ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth
5 

(1) Rhaid i gorff cymeradwyo benderfynu ar—
(a) cais am gymeradwyaeth sy’n ymwneud â datblygiad sy’n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(“Rheoliadau 2017”) o fewn cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys, neu
(b) unrhyw gais arall am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys.
(2) Cyn diwedd y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) o baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ceisydd gytuno ar gyfnod hwy ar gyfer penderfynu ar gais.
(3) Ystyrir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar gais o fewn y terfyn amser perthnasol yn gwrthod y cais.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“Environmental Impact Assessment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017;
 mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “terfyn amser perthnasol” (“relevant time limit”)yw—
(a) cyfnod a bennir ym mharagraff (1), neu
(b) unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno o dan baragraff (2).
RHAN 3 Dyletswydd i fabwysiadu
Hysbysu am benderfyniad i fabwysiadu
6 
Rhaid i hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3 bennu—
(a) y rhesymau dros y penderfyniad, a
(b) dyddiad y penderfyniad.
Rhyddhau bond methu â chyflawni pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys
7 

(1) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r corff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
(a) dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
(b) gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
(3) Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
(a) anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
(b) talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
(c) rhyddhau’r bond methu â chyflawni.
Cofrestru a dynodi pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys
8 
O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo—
(a) trefnu—
(i) i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf,
(ii) i awdurdod dynodi ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Ddeddf unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni, a
(b) yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 63 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, rhoi hysbysiad o fwriad i ddynodi, o dan yr adran honno, unrhyw ran o’r system ddraenio a fabwysiadwyd sy’n stryd o fewn ystyr adran 48 o’r Ddeddf honno.
RHAN 4 Pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys
Eithriad ar gyfer eiddo unigol
9 
At ddibenion paragraff 18(1) neu (2) o Atodlen 3, mae system ddraenio neu unrhyw ran o system ddraenio i’w thrin fel pe bai wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i eiddo unigol yn unig os yw wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i unrhyw adeiladau neu strwythurau eraill y bydd y canlynol, ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, yn berchen arnynt, yn eu rheoli neu â rheolaeth drostynt—
(a) person unigol, neu
(b) dau berson neu ragor gyda’i gilydd.
Rhyddhau bond methu â chyflawni pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys
10 

(1) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau system ddraenio a adeiledir yn unol â chynigion a gymeradwywyd.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
(a) dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
(b) gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
(3) Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
(a) anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
(b) talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
(c) rhyddhau’r bond methu â chyflawni.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cynigion a gymeradwywyd” (“approved proposals”) yw cynigion a gymeradwywyd o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3, gan gynnwys unrhyw amodau ynghylch y gymeradwyaeth;
 mae “system ddraenio” (“drainage system”) i’w dehongli fel system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
Hysbysu am fabwysiadu gwirfoddol
11 

(1) Rhaid i gorff cymeradwyo roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penderfynu mabwysiadu system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
(2) Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a) y rheswm dros fabwysiadu, a
(b) y dyddiad mabwysiadu.
Cofrestru a dynodi yn dilyn mabwysiadu gwirfoddol
12 
O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo drefnu—
(a) i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf, a
(b) i awdurdod dynodi ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni.
RHAN 5 Gwaith ar dir cyhoeddus
Ystyr “statutory undertaker”
13 
At ddiben paragraff 28(3)(a) o Atodlen 3, ystyr “statutory undertaker” yw person sydd â’r hawl o dan ddarpariaeth mewn deddfiad a restrir yn rheoliad 14 i wneud gwaith statudol ar dir cyhoeddus.
Ystyr “statutory works”
14 
At ddiben paragraff 28(3)(b) o Atodlen 3, ystyr “statutory works” yw gwaith y caniateir ei wneud gan berson o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a) adran 159 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (pŵer i osod, arolygu, cynnal a chadw etc. bibelli);
(b) Atodlen 4 i Ddeddf Nwy 1986 (pŵer i dyllu strydoedd);
(c) paragraff 10(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Trydan 1989 (pŵer i wneud tyllau turio);
(d) Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Hysbysu am waith statudol a chynigion ar gyfer gwaith ailadeiladu
15 

(1) Ac eithrio mewn argyfwng, ni chaiff ymgymerwr statudol ddechrau ar waith statudol a fydd yn effeithio ar weithrediad system ddraenio gynaliadwy neu a allai wneud hynny, ar unrhyw dir cyhoeddus, oni bai ei fod o leiaf 4 wythnos cyn i’r gwaith statudol ddechrau, yn hysbysu’r corff cymeradwyo ar gyfer y system ddraenio honno am—
(a) y gwaith statudol arfaethedig, a
(b) y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.
(2) Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ddod i ben ar y diwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwaith statudol i ddechrau.
(3) Os dechreuir y gwaith statudol mewn argyfwng, rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r gwaith statudol ddechrau, hysbysu’r corff cymeradwyo—
(a) bod y gwaith statudol wedi dechrau, a
(b) am y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.
(4) Ni chaniateir dechrau ar waith ailadeiladu oni bai bod y corff cymeradwyo wedi cadarnhau’r cynnig i wneud y gwaith ailadeiladu.
(5) Oni bai bod y corff cymeradwyo wedi hysbysu’r ymgymerwr statudol fel arall, cymerir bod cynnig i wneud gwaith ailadeiladu wedi ei gadarnhau—
(a) mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (1)(b), 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi;
(b) mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (3)(b), 48 awr ar ôl i’r corff cymeradwyo gael yr hysbysiad.
(6) Rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gwaith ailadeiladu, hysbysu’r corff cymeradwyo am y dyddiad y cwblhawyd y gwaith statudol.
Gofyniad i ymgymryd â gwaith adferol
16 

(1) Os yw ymgymerwr statudol yn methu â gwneud gwaith ailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, caiff y corff cymeradwyo ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr wneud gwaith adferol o fewn amserlen benodedig.
(2) Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo—
(a) gwneud gwaith adferol, a
(b) adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.
Gwaith statudol i gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol
17 

(1) O fewn 12 mis ar ôl i’r gwaith statudol gael ei gwblhau, rhaid i’r corf cymeradwyo benderfynu a yw wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Mae’r gofynion fel a ganlyn—
(a) bod system ddraenio newydd neu un a ailadeiladwyd yn gweithredu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd,
(b) bod system ddraenio gynaliadwy newydd, os nad yw wedi ei hailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol, neu
(c) bod system ddraenio gynaliadwy a ailadeiladwyd, os nad yw wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, wedi ei hailadeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau.
(3) Os nad yw corff cymeradwyo wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, caiff ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr statudol wneud gwaith ailadeiladu neu waith adferol o fewn amserlen benodedig.
(4) Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3), caiff y corff cymeradwyo—
(a) gwneud gwaith adferol, a
(b) adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 October 2018