
2018 Rhif 1022 (Cy. 213) (C. 78)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 2018
Gwnaed 19 Medi 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 2018.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 22 Hydref 2018
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym yw 22 Hydref 2018—
(a) adrannau 52 a 53 (i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym); a
(b) Atodlen 6.
Darpariaethau Trosiannol
3 

(1) Nid yw adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) yn gymwys i gais o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i gofrestru tir yng Nghymru yn faes tref a phentref, a anfonir cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2.
(2) At ddibenion adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) nid oes wahaniaeth a fu digwyddiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1B i Ddeddf Tiroedd Comin 2006 cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2, ar y diwrnod hwnnw, neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2018