
2018 Rhif 1001 (Cy. 204)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018
Gwnaed 12 Medi 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Medi 2018
Yn dod i rym 10 Hydref 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 10 Hydref 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dyddiad prisio
2 
1 Ebrill 2019 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae’n rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2014 wedi ei ddirymu.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
12 Medi 2018