
2018 Rhif 100 (Cy. 24) (C. 12)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaethau Arbed) 2018
Gwnaed 29 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 11(3) a (5) o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaethau Arbed) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.
Y diwrnod penodedig
2 
26 Ionawr 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a) adran 6 (diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael) a 7 (dileu’r pŵer i roi grantiau mewn cysylltiad â disgowntiau); a
(b) Atodlen 1 (diwygiadau a diddymiadau canlyniadol).
Darpariaethau arbed
3 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a) pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r landlord yn unol ag adran 122 o Ddeddf 1985 cyn 26 Ionawr 2019; a
(b) i unrhyw roddiad a wneir yn unol ag adran 138(1) o Ddeddf 1985, gan ddilyn ymlaen o hysbysiad o’r fath.
(2) Er gwaethaf y ffaith bod adran 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi, wedi dod i rym, mae’r darpariaethau a ddiwygir, a addesir neu a ddiddymir gan y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn cael effaith ar 25 Ionawr 2019.
4 

(1) Er gwaethaf y ffaith bod adran 7 o’r Ddeddf wedi dod i rym, mae adran 21 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn cael effaith ar 25 Ionawr 2019 mewn perthynas ag unrhyw warediadau a wneir y caiff yr adran honno fod yn gymwys iddynt cyn 26 Ionawr 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un
29 Ionawr 2018