
2017 Rhif 996 (Cy. 254)
Caffael Tir, Cymru
Digolledu
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017
Gwnaed 16 Hydref 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Hydref 2017
Yn dod i rym 4 Rhagfyr 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref
2 
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 4 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny—
(a) £57,500 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
(b) £5,750 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
(c) £5,750 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbed
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016 wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 4 Rhagfyr 2017.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2017