Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2017 Rhif 967 (Cy. 249) (C. 90)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) (Diwygio) 2017
Gwnaed 3 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) a (3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) (Diwygio) 2017.
Diwygio Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
2 
Mae erthygl 3 o Orchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017 wedi ei dirymu.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2017