
2017 No. 965 (Cy. 248)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017
Gwnaed 3 Hydref 2017
Laid before the National Assembly for Wales 5 Hydref 2017
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 347(2), 544(2), 546 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac yn adrannau 203(3) a 210(1) o Ddeddf Addysg 2002, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989; a
(b) Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 
3 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 hepgorer paragraff 7.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2017