
2017 Rhif 961 (Cy. 244)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017
Gwnaed 27 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Hydref 2017
Yn dod i rym 2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 39(1)(g), 39(2) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 mae i “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys ym mhob hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf
3 
Rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf gynnwys—
(a) enw’r darparwr gwasanaeth;
(b) enw’r gwasanaeth rheoleiddiedig a’r math o wasanaeth rheoleiddiedig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(c) y man y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’r mannau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hwy;
(d) y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad; ac
(e) y paragraff yn adran 39(1) o’r Ddeddf neu yn rheoliad 10 yr anfonir yr hysbysiad odano.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf
4 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(a) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) y dyddiad y cymerodd canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
(b) naill ai—
(i) pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i ganslo a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros ganslo; neu
(ii) pan fo hysbysiad yn ymwneud â chanslo yn dilyn cais a wneir o dan adran 14 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros ganslo’r cofrestriad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf
5 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(b) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) y dyddiad y cymerodd amrywiad cofrestriad y darparwr gwasanaeth effaith; a
(b) naill ai—
(i) pan fo hysbysiad yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn hysbysiad gwella a roddir o dan adran 16 o’r Ddeddf, y sail dros amrywio; neu
(ii) pan fo hysbysiad yn ymwneud ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn dilyn cais a wneir o dan adran 11 o’r Ddeddf, y rheswm a roddir gan y darparwr gwasanaeth dros yr amrywiad.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf
6 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(c) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; a
(b) y dyddiad y cymerodd y gorchymyn effaith neu y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf
7 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(d) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) enw’r unigolyn cyfrifol y mae ei ddynodiad wedi ei ganslo;
(b) y sail dros ganslo’r dynodiad; ac
(c) y dyddiad y cymerodd y canslo effaith, os yw’n wahanol.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf
8 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(e) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) enw’r person y mae achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn;
(b) y dyddiad y cychwynnwyd yr achos;
(c) y drosedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni; a
(d) dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf, os yw’n hysbys.
Gwybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf
9 
Yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 3, rhaid i hysbysiad o dan adran 39(1)(f) o’r Ddeddf gynnwys y canlynol—
(a) enw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo;
(b) y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; ac
(c) y drosedd y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod wedi ei chyflawni.
Hysbysu am bethau rhagnodedig o dan adran 39(1)(g) o’r Ddeddf
10 
Y pethau a ragnodir at ddiben adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yw—
(a) apêl gan y darparwr gwasanaeth i’r tribiwnlys yn erbyn—
(i) canslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth;
(ii) amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
(iii) gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf; neu
(iv) canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf;
(b) penderfyniad y tribiwnlys mewn cysylltiad ag unrhyw apêl a wneir iddo gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (a);
(c) pan fo achos wedi ei ddwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani)—
(i) tynnu achos yn ôl;
(ii) penderfyniad y llys yn yr achos;
(iii) apêl yn erbyn penderfyniad y llys; a
(iv) canlyniad yr apêl.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017