
2017 Rhif 954 (Cy. 241) (C. 88)
Trethi, Cymru
Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017
Gwnaed 28 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 194(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Hydref 2017
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 18 Hydref 2017—
 adran 2 (Awdurdod Cyllid Cymru);
 adran 3 (aelodaeth);
 adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol);
 adran 5 (telerau aelodaeth anweithredol);
 adran 6 (penodi aelod gweithredol etholedig);
 adran 7 (diswyddo aelodau etc.);
 adran 8 (pwyllgorau ac is-bwyllgorau);
 adran 9 (prif weithredwr ac aelodau staff eraill);
 adran 10 (gweithdrefn);
 adran 11 (dilysrwydd trafodion a gweithredoedd);
 adran 12 (prif swyddogaethau);
 adran 13 (awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethau);
 adran 14 (dirprwyo swyddogaethau);
 adran 15 (cyfarwyddydau cyffredinol);
 adran 16 (defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaeth);
 adran 17 (cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwr);
 adran 18 (datgelu a ganiateir);
 adran 19 (datganiad ynghylch cyfrinachedd);
 adran 20 (y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gam);
 adran 21(1) (achosion llys);
 adran 22 (tystiolaeth);
 adran 23 (cyllid);
 adran 27 (cynllun corfforaethol);
 adran 29 (cyfrifon);
 adran 33 (swyddog cyfrifo);
 adran 34 (cofnodion cyhoeddus Cymru);
 adran 35 (yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus);
 adran 66 (cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôl);
 adran 69(3) a (4) (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel);
 adran 101(3) a (4) (diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaid);
 adran 163 (cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau); ac
 adran 167 (ffioedd talu).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2017