
2017 Rhif 949 (Cy. 237) (C. 85)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
Gwnaed 27 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) a (3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Hydref 2017
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 4 Hydref 2017—
(a) adran 2 (strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu);
(b) adran 3 (gweithredu’r strategaeth genedlaethol); ac
(c) adran 119 (derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2018
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ionawr 2018—
(a) Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a
(b) adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017