
2017 Rhif 946 (Cy. 235)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017
Gwnaed 26 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Medi 2017
Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Rhagfyr 2017.
Dynodiadau
2 
Mae corff sydd wedi ei restru yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
26 Medi 2017
YR ATODLEN
Cyrff Dynodedig
Erthygl 2


 DCFW Limited
 Innovation Point Limited
 Life Sciences Hub Wales Limited
 Sector Development Wales Partnership Limited
 WGC Holdco Limited
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
