
2017 Rhif 939 (Cy. 232)
Llesiant, Cymru
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017
Gwnaed 19 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Medi 2017
Yn dod i rym 24 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 38(3)(i) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2017.
Asesiadau llesiant lleol
2 
Wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r materion a ddisgrifir yn adran 38(3) o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r materion a restrir yn yr Atodlen.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2017
YR ATODLEN
Materion i roi sylw iddynt wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Rheoliad 2
1 
Yr adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
2 
Y mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.