
2017 Rhif 935 (Cy. 229)
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 17 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Medi 2017
Yn dod i rym 27 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.


Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Hydref 2017.
Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a) yn lle’r diffiniad o “triniaeth tynnu fflworid”, rhodder—“
 mae i “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27A.”;
(b) yn lle’r diffiniad o “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn”, rhodder—“
 mae i “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27B;”.
4 
Yn rheoliad 13 (gwerthu dŵr mwynol naturiol), yn lle is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) rhodder—“
(a) wedi ei echdynnu o ffynnon—
(i) yng Nghymru, a ddatblygir yn groes i reoliad 8; neu
(ii) y tu allan i Gymru, a ddatblygwyd mewn ffordd nad oedd yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 8(1)(a) ac (c) a rheoliad 8(2), neu os nad yw awdurdod cyfrifol yr ardal lle y datblygir y ffynnon wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon gael ei datblygu felly;
(b) wedi cael—
(i) yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9; neu
(ii) y tu allan i Gymru,—(aa) triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 9(1)(a)(i), 9(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;(bb) unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 9(1)(b); neu(cc) unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;
(c) wedi’i botelu—
(i) yng Nghymru, yn groes i reoliad 10; neu
(ii) y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 10;
(d) wedi’i labelu—
(i) yng Nghymru, yn groes i reoliad 11; neu
(ii) y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 11; neu”.
5 

(1) Mae rheoliad 15 (triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddo) wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.
(2) Ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.”
6 
Yn rheoliad 17 (hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall o dan—
(a) dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu
(b) y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.”
7 
Yn rheoliad 18 (gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) yn lle is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1) rhodder—“
(a) wedi’i botelu—
(i) yng Nghymru, yn groes i reoliad 14(1); neu
(ii) y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 14(1);
(b) wedi cael—
(i) yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15; neu
(ii) y tu allan i Gymru,—(aa) triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 15(1)(a)(i), 15(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;(bb) unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 15(1)(b); neu(cc) unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;
(c) wedi’i labelu—
(i) yng Nghymru, yn groes i reoliad 16; neu
(ii) y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 16; neu”.
8 
Yn rheoliad 24 (monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), hepgorer paragraff (2)(a).
9 
Ar ôl rheoliad 27 (monitro triniaethau penodol) mewnosoder—“
Triniaeth tynnu fflworid
27A. 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth tynnu fflworid yw—
(a) triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid;
(b) yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu
(c) yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.”
10 
Ar ôl rheoliad 27A (triniaeth tynnu fflworid), mewnosoder—“
Triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn
27B. 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yw—
(a) triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag aer a gyfoethogir ag osôn;
(b) yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu
(c) yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.”
11 
Yn Atodlen 2 (triniaeth tynnu fflworid), yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (b) o baragraff 3, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”
12 
Yn Atodlen 3 (triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn)—
(a) yn is-baragraff (b) o baragraff 1, yn lle “3, 4 a 5” rhodder “6, 7 ac 8”;
(b) yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (c) o baragraff 1, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”
13 
Yn Atodlen 7 (gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau), yn Rhan 3 (gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau dangosol), yn Nhabl C (paramedrau dangosol), yn y rhes sy’n ymwneud ag—
(a) eitem 5, paramedr “Lliw”—
(i) yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “graddfa Mg/1 Pt/Co” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a
(ii) yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “20”;
(b) eitem 10, paramedr “Arogl”—
(i) yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a
(ii) yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 at 25ºC”;
(c) eitem 14, paramedr “Blas”—
(i) yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a
(ii) yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 ar 25ºC”.
14 
Hepgorer Atodlen 8 (monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu).
15 

(1) Yn Atodlen 9 (monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), mae paragraff 13 (esemptiad o’r monitro) wedi ei ailrifo fel is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw.
(2) Ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—“
(2) yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o 5 mlynedd, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod bwyd yn hysbysu’r Asiantaeth am ei benderfyniad yn unol ag is-baragraff (1)(b).
(3) Mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar unwaith os yw lefel y radon, y tritiwm neu’r dogn dangosiadol yn uwch na’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2017