
2017 Rhif 92 (Cy. 34)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017
Gwnaed 31 Ionawr 2017
Yn dod i rym
ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 1(1) 1 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 12(1), 13(1) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2017 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 wedi eu dirymu.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;
 mae i “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yr ystyr a roddir gan erthygl 2 Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016;
 ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu sy’n cymryd person cofrestredig ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy;
 ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014;
 ystyr “ffi’r categori cofrestru” (“category of registration fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â phob categori cofrestru a nodir yn rheoliad 4(1).
Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy
4 

(1) Y ffi gofrestru sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 ac ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny yw—
(a) £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol;
(b) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol;
(c) £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes addysg bellach;
(d) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach;
(e) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr ieuenctid;
(f) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth ieuenctid; ac
(g) £46 y flwyddyn ar gyfer ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i gael ei dalu tuag at y ffi sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).
(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
(4) Pan fo person yn gwneud cais i gael ei gofrestru neu ei fod wedi ei gofrestru mewn mwy nag un categori cofrestru—
(a) dim ond un ffi categori cofrestru sy’n daladwy; a
(b) ffi’r categori cofrestru sy’n daladwy yw’r uchaf o’r ffioedd hynny ar ôl ystyried unrhyw gymhorthdal a bennir yn unol â pharagraff (2).
Darpariaeth sydd i gael ei gwneud gan y Cyngor mewn perthynas â ffioedd
5 
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—
(a) i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
(i) ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a
(ii) cadw cofnodion yn y Gofrestr; a
(b) bod eithriadau ac esemptiadau pan na fo ffioedd yn cael eu codi.
Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais
6 
Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn yr Atodlen iddo am unrhyw berson a gyflogir neu sydd fel arall wedi ei gymryd ymlaen gan y cyflogwr hwnnw i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
Didynnu ffi
7 

(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i gael ei ddidynnu gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—
(a) bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu
(b) ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
Talu ffioedd i’r Cyngor
8 
Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5, dalu’r ffi honno i’r Cyngor.
Yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi
9 
Wrth dalu’r ffi rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn yr Atodlen am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.
Methu â chyflawni dyletswydd
10 
Os yw person yn methu â chyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2017
YR ATODLEN
YR WYBODAETH SYDD I GAEL EI CHYFLENWI I’R CYNGOR
Rheoliad 6
1 
Enw llawn y person.
2 
Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.
3 
Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.
4 
Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.
5 
Enw’r ysgol neu’r sefydliad lle y mae’r person yn cael ei gyflogi neu lle y mae wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol.
6 
Mewn cysylltiad â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid, enw cyflogwr y person.
7 
Mewn cysylltiad ag ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith—
(a) enw cyflogwr y person; a
(b) pan na fo’r cyflogwr yn gorff dysgu seiliedig ar waith, enw’r corff dysgu seiliedig ar waith y mae’r cyflogwr yn darparu dysgu seiliedig ar waith ar ei ran.
8 
Rhif yswiriant gwladol y person.
9 
Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.
10 
Dyddiad geni’r person.
11 
Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).
12 
Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol drwy asiantaeth, enw’r asiantaeth honno.