
2017 Rhif 912 (Cy. 223)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2017
Gwnaed 11 Medi 2017
Yn dod i rym 5 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 5 Hydref 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993.
Diwygio erthygl 1 o’r prif Orchymyn
2 
Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y lle priodol mewnosoder—“
 “Wales Infected Blood Support Scheme” means a scheme for financial support and advisory services provided to, or in respect of, persons infected with Hepatitis C, HIV or both as a result of receiving infected blood or blood products during the course of treatment provided by the health service in Wales.”
Diwygio erthygl 3 o’r prif Orchymyn
3 
Mae erthygl 3(2) o’r prif Orchymyn wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn is-baragraff (d), yn yr ail le y mae’n ymddangos hepgorer “and”;
(b) yn is-baragraff (e), yn lle “.” rhodder “; and”; ac
(c) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) to manage and administer the Wales Infected Blood Support Scheme in accordance with directions issued by the Welsh Ministers.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2017