
2017 Rhif 903 (Cy. 219) (C. 74)
Undebau Llafur, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
Gwnaed 11 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.
Cychwyn
2 
Daw adrannau 1 a 2 o’r Ddeddf i rym ar 13 Medi 2017.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2017