
2017 Rhif. 886 (Cy. 214)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
Gwnaed 7 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Medi 2017
Yn dod i rym 6 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 253A(2) a (3) ac adran 262(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Hydref 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cymhwyster penodedig” (“specified qualification”) yw cymhwyster perthnasol ac, ar y dyddiad pan fo’r person wedi ei gofnodi ar gyfer y cymhwyster hwnnw—
(a) roedd wedi ei gymeradwyo o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 at ddibenion adran 96 o’r Ddeddf honno;
(b) mae wedi ei gymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf 2015;
(c) mae wedi ei ddynodi o dan adran 29 o Ddeddf 2015; neu
(d) mae’n deillio o gwrs addysg neu hyfforddiant sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 34(8) o Ddeddf 2015;
 ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion person sy’n 16 oed ac yn hŷn y ceir cyllid amdani neu amdano gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.
Amgylchiadau rhagnodedig
3 
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.
4 
Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhagnodi’r amgylchiadau at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009 pan gaiff person ac eithrio Gweinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr.
5 
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 yw bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.
6 
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i Weinidogion Cymru neu goladydd gwybodaeth yw—
(a) bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a
(b) bod Gweinidogion Cymru neu’r coladydd gwybodaeth wedi gofyn am yr wybodaeth honno.
7 
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 pan fo’r wybodaeth i gael ei darparu i berson rhagnodedig neu gategori rhagnodedig o berson yw—
(a) bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn sydd, neu a oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig; a
(b) o ran yr unigolyn y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef—
(i) ei fod, neu yr oedd, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru â’r person sy’n darparu’r wybodaeth; neu
(ii) ei fod, neu oedd ei fod wedi, ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant gyda’r person sy’n darparu’r wybodaeth.
Gwybodaeth ragnodedig am fyfyrwyr
8 
Mae’r disgrifiad o wybodaeth am fyfyrwyr a bennir yn Atodlen 1 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 253A(2) o Ddeddf 2009.
Personau rhagnodedig a chategorïau rhagnodedig o bersonau
9 

(1) Mae’r personau yn Rhan 1 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(c) o Ddeddf 2009.
(2) Mae’r categorïau o bersonau yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 253A(2)(d) o Ddeddf 2009.
Alun Davies
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru.
7 Medi 2017
ATODLEN 1
Gwybodaeth ragnodedig am fyfyrwyr
Rheoliad 8
1 
Ar gyfer pob unigolyn sy’n ceisio, wedi ceisio neu wedi cael cymhwyster penodedig, yr wybodaeth a ganlyn—
(a) cyfenw;
(b) enw cyntaf, neu bob enw cyntaf, os oes mwy nag un;
(c) rhyw;
(d) dyddiad geni;
(e) grŵp ethnig;
(f) cyfeiriad cartref a chod post;
(g) rhif unigryw’r dysgwr a ddyrannwyd i unigolyn gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu;
(h) y cymwysterau perthnasol neu’r cymwysterau rheoleiddiedig, os oes rhai, sydd gan yr unigolyn wrth ymrestru neu gofrestru â’r darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig;
(i) y dyddiad pan gofrestrodd, neu pan ymrestrodd, yr unigolyn â darparwr dysgu at ddiben cael cymhwyster penodedig.
2 
Enw a chyfeiriad y darparwr dysgu y mae’r unigolyn, neu yr oedd yr unigolyn, wedi ymrestru neu wedi ei gofrestru ag ef.
3 
Ar gyfer pob cymhwyster penodedig y mae unigolyn yn ei geisio, wedi ei geisio, neu wedi ei gael—
(a) enw’r cymhwyster;
(b) y cod adnabod unigryw a ddyrannwyd i’r cymhwyster gan Gymwysterau Cymru;
(c) y radd y mae darparwr dysgu neu goladydd gwybodaeth yn rhag-weld y bydd unigolyn yn ei chael cyn sefyll unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;
(d) y radd, os oes un, a gafwyd;
(e) enw a chyfeiriad y ganolfan arholi a rhif y ganolfan arholi, a ddyrannwyd gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster, y safwyd unrhyw arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster ynddi;
(f) y dyddiad pan gofnodwyd unigolyn ar gyfer arholiad neu asesiad sy’n arwain at y cymhwyster;
(g) y dyddiad pan ddyfarnwyd y cymhwyster;
(h) y rhif unigryw a ddyrannwyd i unigolyn sy’n ceisio’r cymhwyster gan y person sy’n dyfarnu’r cymhwyster.
ATODLEN 2
Personau rhagnodedig a chategorïau rhagnodedig o bersonau
Rheoliad 9
RHAN 1 Personau rhagnodedig

 Y Cyd-Gyngor Cymwysterau
 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
 Career Choices Dewis Gyrfa Limited (rhif cofrestru’r cwmni 07442837)
 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr
 Cymwysterau Cymru
 Yr Ysgrifennydd Gwladol
 Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau
 Universities and Colleges Admissions Service (rhif cofrestru’r cwmni 02839815)
 Student Loans Company Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02401034)
 Higher Education Statistics Agency Limited (rhif cofrestru’r cwmni 02766993)

RHAN 2 Categorïau rhagnodedig o bersonau
Darparwr dysgu

Personau sydd, at ddiben hybu addysg neu lesiant myfyrwyr yng Nghymru, yn—
(a) cynnal gwaith ymchwil neu ddadansoddi;
(b) ynhyrchu ystadegau;
(c) darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau;ac y mae angen gwybodaeth am fyfyrwyr arnynt at y diben hwnnw.
