
2017 Rhif 2017 88 (Cy. 32) (C. 9)
Dŵr, Cymru
Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017
Gwnaed 31 Ionawr 2017
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 105(3), (4) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 58(8) o Ddeddf Dŵr 2003 i rym, yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2017