
2017 Rhif 846 (Cy. 206) (C. 71)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2017
Gwnaed 17 Awst 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 4 Medi 2017—
(a) adran 56(1) i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144A yn Neddf 2014;
(b) adran 56(2) (sy’n diwygio adran 196(6) o Ddeddf 2014).
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
17 Awst 2017