
2017 Rhif 81 (Cy. 30)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017
Gwnaed 24 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2017
Yn dod i rym 24 Chwefror 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 ac sydd wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cymeradwyo cod ymarfer
2 
Mae’r rhannau a ganlyn o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored, sy’n dwyn y rhif BS 5228, wedi eu cymeradwyo at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn o’r safleoedd hynny—
(a) Rhan 1: Sŵn, sy’n dwyn y rhif BS 5228-1:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 21 Chwefror 2014;
(b) Rhan 2: Dirgryniad, sy’n dwyn y rhif BS 5228-2:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 3 Mehefin 2014.
Dirymu
3 
Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002; a
(b) Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017