
2017 Rhif 714 (Cy. 171)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017
Gwnaed 27 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(d) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 2017
2 
Y diwrnod penodedig i adran 81 (sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol) o’r Ddeddf ddod i rym yw 14 Gorffennaf 2017.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017