
2017 Rhif 710 (Cy. 167)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 27 Mehefin 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 30 Mehefin 2017
Yn dod i rym 1 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(8) a 120(1) o Ddeddf Addysg 2005 a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2017.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) trefnu i’r cyfarfod gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail diwrnod gwaith yn dilyn cychwyn yr arolygiad;”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017