
2017 Rhif 698 (Cy. 164)
Tai, Cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 20 Mehefin 2017
Yn dod i rym 22 Mehefin 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn unol ag adran 142(3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mehefin 2017.
Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
2 

(1) Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;”.
(3) Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) ym mharagraff (d) ar y diwedd hepgorer “ac”;
(b) ym mharagraff (e) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”; ac
(c) ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(f) Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus. ”
(4) Yn rheoliad 5 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer paragraff (1)(e);
(b) ym mharagraff (1)(f) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (1)(f) mewnosoder—“
(g) Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus.”; a
(d) hepgorer paragraffau (2) a (3).
(5) Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai), ym mharagraff (2) yn lle’r geiriau “dyraniad o lety tai” rhodder y geiriau “cymorth tai”.
Llofnodwyd gan
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2017