
2017 Rhif 677 (Cy. 159)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2017
Gwnaed 7 Mehefin 2017
Yn dod i rym 10 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1) a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 .
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Mehefin 2017.
Diwygiadau i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2017
2 
Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3 
Yn erthygl 1 (enwi, cymhwyso a chychwyn) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Medi 2017.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Mehefin 2017