
2017 Rhif 674 (Cy. 156)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 31 Mai 2017
Yn dod i rym 12 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1) a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Mehefin 2017.
Diwygiadau i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003
2 
Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3 
Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “lladd-dy” (“slaughterhouse”), yn lle “Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995” rhodder “Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006”; a
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “uned gwarantin” (“quarantine unit”) yw cyfleuster neu safle a gymeradwywyd yn ysgrifenedig at ddibenion cwarantin gan gorff sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS);”.
4 
Yn dod i rymYn erthygl 8 (cyfleusterau ynysu)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Pan fydd moch yn cael eu cadw mewn cyfleuster ynysu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, a bod moch eraill yn cael eu symud i mewn cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw fochyn gael ei symud o’r cyfleuster ynysu cyn y dyddiad rhyddhau diwethaf ar gyfer y moch diwethaf i gael eu symud i mewn i’r cyfleuster ynysu.”; a
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Ni chaniateir defnyddio cyfleuster ynysu i gadw unrhyw anifeiliaid ac eithrio moch.”
5 
Ar ôl erthygl 8 mewnosoder—“
Unedau cwarantin
8A. 

(1) Caniateir defnyddio uned gwarantin i gadw gwartheg, defaid a geifr yn unig.
(2) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn uned gwarantin o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, a bod anifeiliaid eraill yn cael eu symud i mewn cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r uned gwarantin, ni chaniateir i unrhyw anifail gael ei symud o’r uned gwarantin cyn y dyddiad rhyddhau diwethaf ar gyfer yr anifail diwethaf i gael ei symud i mewn i’r uned gwarantin.
(3) Ni chaiff neb symud unrhyw anifail oddi ar safle yn uniongyrchol o uned gwarantin oni bai bod y symudiad yn un a bennir ym mharagraffau 1, 2, 4, 13 neu 14 o Atodlen 1.
(4) Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad i geidwad gwartheg sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo brofi unrhyw wartheg o’r fath am dwbercwlosis trwy gynnal prawf perthnasol cyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, ni chaniateir cadw gwartheg mewn uned gwarantin na’u symud i mewn iddi ar ddyddiad y prawf perthnasol oni bai—
(a) bod prawf croen wedi ei roi i’r gwartheg hynny ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y prawf perthnasol, a
(b) bod canlyniadau’r prawf wedi eu dehongli gan arolygydd milfeddygol neu filfeddyg cymeradwy a’u bod yn negyddol.
(5) Pan fydd prawf perthnasol am dwbercwlosis wedi ei roi i wartheg o’r fath fel a bennir mewn hysbysiad ym mharagraff (4) ond cyn i ganlyniad y prawf hwnnw gael ei ddehongli gan arolygydd, neu filfeddyg cymeradwy, caiff ceidwaid y gwartheg symud unrhyw anifail i mewn i uned gwarantin.
(6) Rhaid i geidwad gofnodi—
(a) symudiad anifail i mewn i uned gwarantin o fewn 24 awr i’r symudiad;
(b) symudiad anifail allan o uned gwarantin o fewn 3 diwrnod i’r symudiad; ac
(c) pob symudiad yng nghofrestr y daliad o fewn 36 awr i’r symudiad.
(7) Caniateir rhoi cymeradwyaeth i uned gwarantin yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei hatal dros dro, ei diwygio neu ei dirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig gan gorff sydd wedi ei achredu gan UKAS neu gan Weinidogion Cymru.
(8) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “cofnodi” (“record”) yw hysbysu neu adrodd am symudiad anifail yn unol â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 neu Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015;
 ystyr “cofrestr y daliad” (“holding register”) yw cofrestr at ddibenion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 neu Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015;
 ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg sydd wedi ei gymeradwyo yn unol ag erthygl 2A o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010;
 ystyr “prawf croen” (“skin test”) yw prawf twbercwlin serfigol cymharol mewngroenol sengl ar gyfer twbercwlosis gan ddefnyddio twbercwlin buchol ac adarol;
 ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—
(a) prawf croen; neu
(b) unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; ac
 ystyr “twbercwlosis” (“tuberculosis”) yw heintiad â Mycobacterium bovis (M.bovis).”
6 
Hepgorer erthygl 15 (trwyddedau cyffredinol).
7 
Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—“
Dogfennau symud ceirw
15A. 
Pan symudir ceirw o dan drwydded gyffredinol, a bod y drwydded honno’n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy’n symud y ceirw ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a) cydymffurfio ag amodau’r drwydded sy’n ymwneud ag adrodd gwybodaeth am symudiad; a
(b) cadw copi wedi ei lenwi o’r ddogfen symudiad am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei ddangos i arolygydd os gofynnir am ei weld.”
8 
Mae Atodlenni 1 a 2 wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
31 Mai 2017
YR ATODLEN
Diwygio Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003
Erthygl 8
Diwygio Atodlen 1 (Symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur)
1 

(1) Mae Atodlen 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5, yn lle “gwartheg neu foch” rhodder “moch”.
(3) Hepgorer paragraff 6.
(4) Ym mharagraff 7, yn lle “reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000” rhodder “Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011”.
(5) Ym mharagraff 10(1), yn lle “erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 21 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
(6) Hepgorer paragraff 12.
(7) Yn lle paragraff 13 rhodder—“
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau ac arddangosfeydd
13. 
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau ac arddangosfeydd ar yr amod eu bod wedi eu cadw mewn uned gwarantin os ydynt wedi symud o sioe neu arddangosfa arall yn y 6 diwrnod diwethaf ac nad ydynt wedi ymadael â’r uned gwarantin honno ers pan aed â hwy yno.”
Diwygio Atodlen 2 (Symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno’r cyfnod segur)
2 

(1) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Cyn paragraff 1 mewnosoder—“
Symud gwartheg, defaid a geifr
Z1. 
Gwartheg, defaid a geifr sy’n cyrraedd y safle ar yr amod y cânt eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd.”
(3) Yn y pennawd cyn paragraff 1 yn lle “Orchymyn Cynulliadau Anifeiliaid (Cymru) 2003”, ac ym mharagraff 1, yn lle “Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003” rhodder “Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010”.
(4) Yn y pennawd cyn paragraff 3, yn lle “Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
(5) Ym mharagraff 3, yn lle “erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 21 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
(6) Ym mharagraff 4—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2), yn lle “erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 21 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”;
(b) yn is-baragraff (1)(d), yn lle “llofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio’r mochyn i fagu ar y safle hwnnw a’i fod yn anfon y datganiad i’r awdurdod lleol yn ddi-oed” rhodder “cyflwyno, yn unol â thelerau’r drwydded y caiff y mochyn ei symud oddi tani, ac yn ddi-oed, ddatganiad yn dweud y bwriedir defnyddio’r mochyn ar gyfer bridio ar y safle hwnnw”; ac
(c) yn is-baragraff (2)(b)—
(i) yn lle “anfon y” rhowch “cyflwyno’r”, a
(ii) hepgorer “uchod at yr awdurdod lleol”.
(7) Yn lle paragraff 5 rhodder—“
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa
5. 

(1) Dychwelyd gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i’r safle y traddodwyd hwy ohono i’r sioe neu’r arddangosfa honno ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
(2) Dychwelyd moch o sioe neu arddangosfa i’r safle y traddodwyd hwy ohono i’r sioe neu’r arddangosfa honno ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu mewn cyfleuster sydd wedi ei gymeradwyo i’r pwrpas gan arolygydd milfeddygol am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.”
(8) Hepgorer paragraff 6.
(9) Hepgorer paragraff 7.
(10) Hepgorer paragraff 8.
(11) Yn lle paragraff 9 rhodder—“
9. 
Gwartheg, defaid neu eifr sy’n cyrraedd yn ôl o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.”
(12) Hepgorer paragraff 11.
(13) Yn lle paragraff 15 rhodder—“
Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol, etc.
15. 
Defaid, geifr, gwartheg neu foch sy’n cyrraedd yn ôl i’r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra’r oeddent yno ar yr amod—
(a) yn achos moch, eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd; a
(b) yn achos defaid, geifr a gwartheg, pan gafodd yr anifeiliaid hynny eu cadw mewn uned gwarantin cyn eu symud i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol, eu bod yn cael eu cadw mewn uned gwarantin am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd minws nifer y diwrnodau y cadwyd yr anifail mewn uned gwarantin cyn ei symud i gael triniaeth.”