
2017 Rhif 641 (Cy. 147)
Henebion Hynafol, Cymru
Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017
Gwnaed 4 Mai 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2017
Yn dod i rym 31 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47 a 60 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a thrwy’r pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1AD a 9ZL o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979.
Hawliadau am ddigollediad
2 

(1) Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig, a rhaid ei gyflwyno fel ei fod yn dod i’w llaw hwythau o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ag—
(a) yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD o Ddeddf 1979 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), y dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn peidio â chael effaith;
(b) yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 7 o Ddeddf 1979 (digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig), ddyddiad yr hysbysiad gwrthod neu, yn ôl y digwydd, ddyddiad rhoi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau cydsyniad heneb gofrestredig;
(c) yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9 o Ddeddf 1979 (digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â bod yn awdurdodedig), y dyddiad y mae’r gwaith yn peidio â bod yn awdurdodedig;
(d) yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9ZL o Ddeddf 1979 (hysbysiad stop dros dro: digollediad)—
(i) o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(a) o Ddeddf 1979, y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf; neu
(ii) o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(b) o Ddeddf 1979, y dyddiad y tynnir yr hysbysiad stop dros dro yn ôl; neu
(iii) o dan yr amgylchiadau pan fo paragraffau (i) a (ii) ill dau o is-baragraff (d) yn gymwys, y diweddaraf o’r dyddiadau sy’n gymwys i’r paragraffau hynny;
(e) yn achos digollediad y gellir ei adennill o dan adran 46 o Ddeddf 1979 (digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf hon), y dyddiad yr achoswyd y difrod neu, pan fo’r difrod wedi ei achosi o ganlyniad i weithred sy’n parhau, y dyddiad y daeth y weithred i ben.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rheswm rhesymol dros fethu â gwneud hawliad o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1) cânt ar unrhyw adeg estyn y cyfnod y caniateir gwneud hawliad o’i fewn.
Darpariaeth dirymu ac arbed
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991 wedi eu dirymu.
(2) Mae’r Rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliad am ddigollediad sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 31 Mai 2017.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2017