
2017 Rhif 640 (Cy. 146)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017
Gwnaed 4 Mai 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2017
Yn dod i rym 31 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, a’r pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 93 o’r Ddeddf honno ac sy’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 31 Mai 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Adennill llog ar dreuliau
2 

(1) Y gyfradd llog ar dreuliau y caniateir i awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 55(5B) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yw 2% y flwyddyn yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) ar unrhyw ddiwrnod penodol yw—
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd ddiweddaraf a gyhoeddir mewn cyfarfod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhelir cyn y diwrnod hwnnw fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu
(b) os yw gorchymyn o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 1998 mewn grym, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2017