
2017 Rhif 638 (Cy. 144)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017
Gwnaed 4 Mai 20177
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2017
Yn dod i rym  yn unol â rheoliad 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10, 28, 29, 74, 91 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 28B a 44D o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a) y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 2(4) a (5), a rheoliad 2(4) a (5), ar 31 Mai 2017; a
(b) rheoliad 2(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â gweddill y darpariaethau, a gweddill y darpariaethau, ar 1 Medi 2017.
Diwygiadau i Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—“
(c) y datganiad o’r effaith ar dreftadaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6;”.
(3) Yn lle rheoliad 6 a’i bennawd rhodder—“
Datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth
6. 

(1) Rhaid i unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ddod gyda datganiad o’r effaith ar dreftadaeth.
(2) Mewn perthynas â chais am ganiatâd adeilad rhestredig, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—
(a) disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith”), gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau dylunio a rhestr o’r gwaith;
(b) esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith a pham bod y gwaith yn ddymunol neu’n angenrheidiol;
(c) datganiad sy’n disgrifio diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef a’i arwyddocâd, gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad y mae’r gwaith yn effeithio arni;
(d) asesiad o effaith y gwaith ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad a’i arwyddocâd, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i’r diddordeb hwnnw;
(e) crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a’r rhesymau dros ffafrio’r cynigion y mae’r cais yn ymwneud â hwy; ac
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (4), disgrifiad o sut yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â mynediad sy’n codi mewn perthynas â’r gwaith.
(3) Mewn perthynas â chais am ganiatâd ardal gadwraeth, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—
(a) disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith dymchwel”), gan gynnwys rhestr o’r gwaith;
(b) esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith dymchwel a pham bod dymchwel yn ddymunol neu’n angenrheidiol;
(c) disgrifiad o sut y mae unrhyw adeilad y bwriedir ei ddymchwel yn cyfrannu at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth;
(d) asesiad o effaith y gwaith dymchwel ar gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i gymeriad neu olwg yr ardal;
(e) crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) a’r rhesymau dros ffafrio dymchwel.
(4) Nid yw paragraff (2)(f) yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar fynedfa i, neu o fewn, unrhyw ran o adeilad rhestredig a ddefnyddir fel annedd breifat.”
(4) Yn rheoliad 13(1) yn lle “o dan adrannau 28 neu 29 o’r Ddeddf,” rhodder “o dan adrannau 28, 29 neu 44D o’r Ddeddf,”.
(5) Ar ôl rheoliad 13(1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i gais am ddigolledu a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 28B o’r Ddeddf gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru drwy ei draddodi i swyddfeydd Gweinidogion Cymru, neu drwy ei anfon i’r swyddfeydd hynny drwy bost rhagdaledig.”
(6) Yng ngeiriau agoriadol rheoliad 13(2) yn lle “mharagraff (1)” rhodder “mharagraff (1) neu (1A)”.
Darpariaeth drosiannol
3 
Nid yw rheoliad 2(2) a (3) yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig nac i gais am gydsyniad ardal gadwraeth a wneir cyn 1 Medi 2017.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2017