
2017 Rhif 557 (Cy. 128) 
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2017
Gwnaed 9 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” (“the Revised Code”) yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2017 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 9 Ebrill 2017.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 10 Ebrill 2017.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2017