
2017 Rhif 546 (Cy. 123) (C. 49)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 2017
Gwnaed 5 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 58 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 10 Ebrill 2017
2 
Y diwrnod penodedig i adran 54 o Ddeddf 2015 ddod i rym, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, yw 10 Ebrill 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Mai 2017
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yw 5 Mai 2017—
(a) adran 39;
(b) adrannau 47 a 48;
(c) adran 50;
(d) adran 51; ac
(e) paragraffau 15 i 19, 21, 23, 25 a 27 o Atodlen 5.
Darpariaethau trosiannol
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan gaiff hysbysiad o apêl ei gyflwyno mewn perthynas â chais a wnaed cyn 5 Mai 2017 o dan—
(a) adrannau 78 a 195 o Ddeddf 1990;
(b) adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”);
(c) adran 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y Ddeddf Sylweddau Peryglus”).
(2) Mae Deddf 1990, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig a’r Ddeddf Sylweddau Peryglus yn eu trefn yn gymwys i’r apêl berthnasol a’r cais y mae’r apêl honno yn berthnasol iddo fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan adran 47 o Ddeddf 2015 wedi eu gwneud.
5 
Pan fo apêl yn cael ei gwneud o dan adran 217 o Ddeddf 1990 yn erbyn hysbysiad o dan adran 215 o’r Ddeddf honno a gyflwynwyd cyn 5 Mai 2017, mae Deddf 1990 yn gymwys i’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan adran 48 o Ddeddf 2015 wedi eu gwneud.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017