
2017 Rhif 545 (Cy. 122)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 5 Ebrill 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Ebrill 2017
Yn dod i rym 5 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy a’r pwerau a roddir iddynt gan adran 21 o’r Ddeddf honno a chan adran 323A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.
Diwygiadau i Reoliadau 2012
2 
Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
Dehongli
3 
Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—
(a) datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—
(i) y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o’r Ddeddf neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 19 neu 74(3) o’r Ddeddf; neu
(ii) y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 20 o’r Ddeddf; a
(b) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;”.
Cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru
4 

(1) Yn rheoliad 3(6) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”.
(2) Yn rheoliad 8(5) (defnyddio cyfathrebiadau electronig) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—“
(cha) anfon neu gyflwyno hysbysiad o gyfeirio, ffeil y cais neu ddatganiad achos llawn o dan reoliad 11A;”.
(3) Yn rheoliad 8(6)—
(a) yn lle “rhoi neu yn cyflwyno’r hysbysiad”, rhodder “rhoi, cyflwyno neu’n anfon yr hysbysiad, ffeil y cais neu ddatganiad achos llawn”;
(b) yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “neu hysbysiad” rhodder “, hysbysiad neu ddogfen arall”;
(c) yn is-baragraff (c), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “ceisydd” rhodder “person”.
(4) Ar ôl rheoliad 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron) mewnosoder—“
Cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru
11A. 

(1) Pan fo cais yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o’r Ddeddf neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 19 neu adran 74(3) o’r Ddeddf, rhaid i awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o gyfeirio; a
(b) anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—
(a) y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno;
(b) copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais; a
(b) ystyr “hysbysiad o gyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—
(i) sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;
(ii) yn achos cais a gyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 12(1) o’r Ddeddf, sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a
(iii) sy’n hysbysu’r ceisydd—(aa) y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;(bb) os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac(cc) bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.”
Apelau
5 

(1) Ar ôl rheoliad 12(1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio yn dilyn methiant awdurdod cynllunio lleol i roi hysbysiad o’i benderfyniad neu hysbysiad o gyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru ar ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru.”
(2) Yn rheoliad 12(2) yn lle’r geiriau o “Rhaid i geisydd sy’n dymuno” hyd at “roi copi i Weinidogion Cymru o bob” rhodder “Rhaid rhoi datganiad achos llawn gyda’r hysbysiad o apêl a grybwyllir ym mharagraffau (1) ac (1A) a phob”.
(3) Ar ôl rheoliad 12(2) mewnosoder—“
(3) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol a grybwyllir ym mharagraff (1) neu’n dilyn methiant awdurdod cynllunio lleol i roi hysbysiad o’i benderfyniad neu hysbysiad o gyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru anfon i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad o apêl a grybwyllir ym mharagraffau (1) neu (1A) a’r datganiad achos llawn.”
Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl
6 
Ar ôl rheoliad 12A mewnosoder—“
Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl
12B. 

(1) At ddibenion adran 21(4A) o’r Ddeddf yr amgylchiad a ragnodir yw bod y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwall cywiradwy.
(2) Mae cais sydd wedi ei amrywio o dan yr amgylchiad a ragnodir ym mharagraff (1) yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwall cywiradwy” (“correctable error”) yw gwall—
(a) sydd wedi ei gywiro er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais a’r dogfennau atodol yn gyson; a
(b) nad yw’n addasu hanfod y cais.”
Darpariaethau trosiannol ac arbed
7 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd mewn perthynas â chais a wneir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a) cyfeirir y cais at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 19 neu 74(3) o’r Ddeddf honno, neu
(b) gwneir apêl.
(2) Mae Rheoliadau 2012 yn gymwys i’r cais hwnnw neu’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 i 6 wedi eu gwneud.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017