
2017 Rhif 530 (Cy. 113)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017
Gwnaed 5 Ebrill 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Ebrill 2017
Yn dod i rym 5 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau: a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173, 174 a 175 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adrannau 39 a 40 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy; a’r pwerau a roddir iddynt gan adrannau 208 a 217 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) hysbysiad gorfodi o dan adran 172 neu adran 182 o’r Ddeddf Gynllunio a ddyroddir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym; a
(b) yr apelau a restrir ym mharagraff (4) pan ddyroddwyd yr hysbysiad gorfodi sy’n destun yr apêl ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(4) Yr apelau a restrir yn y paragraff hwn yw—
(a) apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi);
(b) apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed);
(c) apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn hysbysiad sy’n gwneud cynnal tir yn ofynnol); a
(d) apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi adeiladau rhestredig) neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth).
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad gorfodi perthnasol;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
 ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
 ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—
(a) adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio,
(b) adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio,
(c) adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio,
(d) adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio,
(e) adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno, neu
(f) adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig.
(2) Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—
(a) mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;
(b) mae cyfeiriadau at hysbysiadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.
Defnyddio cyfathrebiadau electronig
3 

(1) Mae paragraffau (2) i (6) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn rheoliad 8 neu 10 i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).
(2) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a) yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c) yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(4) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig oddi allan i’w oriau busnes, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(5) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fo apelydd yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir eu bod wedi cytuno i’r hyn a ganlyn—
(a) i ddefnyddio’r cyfathrebiadau hynny at yr holl ddibenion sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b) mai cyfeiriad yr apelydd at ddiben cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall, neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy;
(c) y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo roi hysbysiad ei fod yn dymuno dirymu’r cytundeb yn unol â rheoliad 5.
Trosglwyddo dogfennau
4 
Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a) drwy’r post, neu
(b) drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.
Tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig
5 

(1) Pan na fo person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a) yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu
(b) yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.
(2) Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cymryd effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—
(i) y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu
(ii) pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.
Materion ychwanegol i’w pennu mewn hysbysiad gorfodi
6 
Rhaid i hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 172 o’r Ddeddf Gynllunio bennu—
(a) y rhesymau pam y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn ystyried ei bod yn hwylus dyroddi’r hysbysiad;
(b) pob polisi a chynnig yn y cynllun datblygu sy’n berthnasol i’r penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gorfodi; ac
(c) union ffiniau’r tir y mae’r hysbysiad yn berthnasol iddo, boed drwy gyfeirio at blan neu fel arall.
Nodyn esboniadol i’w anfon gyda chopi o’r hysbysiad gorfodi
7 
Rhaid i bob copi o hysbysiad gorfodi a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol o dan adran 172(2) o’r Ddeddf Gynllunio gael ei anfon gyda nodyn esboniadol a rhaid iddo gynnwys yr hyn a ganlyn—
(a) copi o adrannau 171A, 171B a 172 hyd 177 o’r Ddeddf Gynllunio, neu grynodeb o’r adrannau hynny gan gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(i) bod hawl apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad gorfodi hwnnw;
(ii) bod modd gwneud apêl yn unig drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y bydd yn cymryd effaith neu drwy anfon hysbysiad o’r fath at Weinidogion Cymru mewn llythyr wedi ei gyfeirio’n gywir y talwyd am ei gludiant ymlaen llaw ac sydd wedi ei bostio atynt ar y fath amser fel, yn nhrefn arferol y post, y byddai’n eu cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw; neu, os defnyddir cyfathrebiadau electronig i anfon hysbysiad o’r fath at Weinidogion Cymru, drwy anfon yr hysbysiad atynt ar y cyfryw adeg pan fyddai, yn nhrefn arferol y trosglwyddo, yn cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn y dyddiad hwnnw;
(iii) ar ba seiliau y caniateir cyflwyno apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio;
(iv) y ffi sydd i’w thalu o dan reoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 am y cais tybiedig am ganiatâd cynllunio i’r datblygiad yr honnir ei fod yn torri’r rheolaeth gynllunio yn yr hysbysiad gorfodi;
(b) hysbysiad bod rhaid i apelydd anfon at Weinidogion Cymru, naill ai wrth roi hysbysiad o apêl neu cyn diwedd y cyfnod a bennir yn rheoliad 8(3), ddatganiad achos llawn sy’n cynnwys—
(i) datganiad ysgrifenedig sy’n pennu seiliau’r apêl, gan ddatgan y ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt a chynnwys manylion llawn yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
(ii) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth; ac
(c) rhestr o enwau a chyfeiriadau’r personau y mae copi o’r hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddynt.
Apelau o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig
8 

(1) Rhaid i berson sy’n gwneud apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn erbyn hysbysiad gorfodi anfon at Weinidogion Cymru ddatganiad achos llawn sy’n cynnwys—
(a) datganiad ysgrifenedig sy’n pennu seiliau’r apêl, gan ddatgan y ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt a chynnwys manylion llawn yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
(b) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.
(2) Os na chaiff y datganiad achos llawn a grybwyllir ym mharagraff (1) ei gynnwys yn yr hysbysiad o apêl, rhaid i’r apelydd ei anfon at Weinidogion Cymru fel y byddant yn ei gael cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a) 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad o apêl; neu
(b) pa bynnag gyfnod hwy y mae Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu ar yr amod y caiff unrhyw gyfnod hwy o’r fath ei awdurdodi yn ysgrifenedig ganddynt cyn y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y bydd yn cymryd effaith.
(4) Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r hysbysiad o apêl yn ogystal â’r datganiad achos llawn a grybwyllir ym mharagraff (1), i’r awdurdod cynllunio lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Apelau o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio
9 
Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig o apêl a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 208(2) o’r Ddeddf Gynllunio—
(a) dangos seiliau’r apêl;
(b) nodi’r ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt;
(c) cael ei anfon gyda datganiad achos llawn sy’n cynnwys—
(i) datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
(ii) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.
Apelau o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio
10 

(1) Rhaid gwneud apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i Weinidogion Cymru fel y byddant yn cael yr hysbysiad o apêl o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad gorfodi o dan adran 215 o’r Ddeddf Gynllunio fel y cyfnod y bydd yn cymryd effaith ar ei ddiwedd.
(2) Rhaid i berson sy’n rhoi hysbysiad o dan baragraff (1) anfon at Weinidogion Cymru ddatganiad achos llawn sy’n cynnwys—
(a) datganiad ysgrifenedig sy’n pennu seiliau’r apêl, gan ddatgan y ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt a chynnwys manylion llawn yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
(b) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.
(3) Os na chaiff y datganiad achos llawn a grybwyllir ym mharagraff (2) ei gynnwys yn yr hysbysiad o apêl, rhaid i’r apelydd ei anfon at Weinidogion Cymru fel y byddant yn ei gael cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (4).
(4) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a) 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad o apêl; neu
(b) pa bynnag gyfnod hwy y mae Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu ar yr amod y caiff unrhyw gyfnod hwy o’r fath ei awdurdodi yn ysgrifenedig ganddynt o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad gorfodi fel y cyfnod y bydd yn cymryd effaith ar ei ddiwedd.
(5) Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r hysbysiad o apêl yn ogystal â’r datganiad achos llawn a grybwyllir ym mharagraff (2), i’r awdurdod cynllunio lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Cymhwyso’r Rheoliadau hyn i hysbysiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru
11 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 9 a 10, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraff (2) i—
(a) hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 182 o’r Ddeddf Gynllunio,
(b) apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 182 o’r Ddeddf Gynllunio, ac
(c) apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig,fel y maent yn gymwys i hysbysiadau o’r fath a ddyroddir gan awdurdodau cynllunio lleol ac i apelau a wneir yn eu herbyn.
(2) Mae’r addasiadau fel a ganlyn—
(a) bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol;
(b) yn rheoliad 6, bod “adran 182” yn cael ei roi yn lle “adran 172”;
(c) yn rheoliad 7—
(i) bod “adran 182(1)” yn cael ei roi yn lle “adran 172(2)”; a
(ii) ym mharagraff (a), bod “adrannau 171A, 171B, 172 hyd 177 a 182” yn cael ei roi yn lle “adrannau 171A, 171B a 172 hyd 177”;
(d) bod rheoliad 8(4) yn cael ei hepgor.
Dirymu a darpariaethau trosiannol ac arbed
12 

(1) Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i’r graddau a nodir yng ngholofn (3) yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o’r Atodlen yn parhau i fod yn gymwys pan fo apêl yn cael ei gwneud mewn perthynas â hysbysiad gorfodi a ddyroddir cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017
YR ATODLEN
Yr Offerynnau Statudol a Ddirymir i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru
Rheoliad 12


Yr Offeryn Statudol a ddirymir Y Cyfeirnod Graddau’r Dirymu
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003 O.S. 2003/394 (Cy. 53) Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004 O.S. 2004/3157 (Cy. 274) Paragraff (1) o erthygl 3 ac Atodlen 2
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006 O.S. 2006/1282 Erthygl 36